Treuliodd Scott Sinclair ddwy flynedd gyda Brendan Rodgers yn Abertawe
Mae Glasgow Celtic wedi arwyddo cyn-ymosodwr Abertawe, Scott Sinclair o Aston Villa ar gytundeb pedair blynedd.
Mae’r trosglwyddiad yn golygu bod Sinclair, 27, yn ail-ymuno â’r rheolwr Brendan Rodgers, gyda’r ddau wedi cydweithio yn Stadiwm Liberty.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod Celtic wedi talu £3 miliwn am Sinclair, ond y gallai’r ffi gynyddu i £4.5 miliwn yn ddibynnol ar gymalau ychwanegol yn ei gytundeb.
Penderfynodd Sinclair adael Aston Villa ar ôl i Celtic fynegi diddordeb ynddo.
Syrthiodd Aston Villa o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth, ond roedd Sinclair eisoes yn paratoi am y tymor newydd gyda’r clwb yng nghanolbarth Lloegr.
Ond fe allai nawr chwarae yng ngêm ei glwb newydd yn erbyn Hearts ddydd Sul.
Dywedodd Sinclair am Brendan Rodgers: “Cafodd y rheolwr ddylanwad mawr arna i pan o’n i yn Abertawe a dyna pryd y chwaraeais i fy mhêl-droed gorau.”
Treuliodd Sinclair a Rodgers ddwy flynedd gyda’i gilydd yn Abertawe, ar ôl i Sinclair symud i Gymru yn 2010.
Ond fe adawodd am Man City yn 2012, cyn mynd yn barhaol i Aston Villa y llynedd yn dilyn cyfnod llwyddiannus ar fenthyg.