Mae Jasmine Joyce, 20, wedi creu hanes yn y Gemau Olympaidd – hi yw’r Gymraes gyntaf erioed i sgorio cais yng nghystadleuaeth rygbi saith bob ochr y Gemau.

Dyma’r tro cyntaf i rygbi saith bob ochr gael ei chynnwys ymhlith y campau Olympaidd, a sgoriodd Joyce yng ngêm Prydain yn erbyn Brasil.

Dydy rygbi o unrhyw fath ddim wedi cael ei chynnwys ymhlith y campau Olympaidd ers 92 o flynyddoedd.

Ond cafodd hi garden felen yn erbyn Siapan yn yr ail gêm, wrth i Brydain ennill o 40-0.

Er nad yw hi’n aelod swyddogol o’r garfan, mae un o gyn-ddisgyblion Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd, Megan Jones wedi teithio gyda’r garfan fel eilydd.

Bydd Prydain yn herio Canada’n ddiweddarach ddydd Sul wrth iddyn nhw anelu am dair buddugoliaeth o’r bron. Daeth eu buddugoliaeth gyntaf wrth iddyn nhw guro Brasil o 29-3.

Mae Prydain, felly, eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf, fydd yn cael ei chynnal nos Sul.