Mae’r seiclwr Geraint Thomas wedi mynegi ei siom ar Twitter ar ôl i’w ymgyrch i ennill medal yn y ras ffordd yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro ddod i ben.
Roedd y Cymro’n cael ei ystyried yn un o’r posibiliadau cryfaf am fedal aur i Brydain, ond fe gwympodd o’i feic yn hwyr yn y ras ffordd i ddynion ddydd Sadwrn.
Roedd medal o fewn ei gyrraedd pan ddaeth oddi ar ei feic yn Copacabana wrth ddringo’r ffordd 10km o’r llinell derfyn.
Fe gwblhaodd y ras yn yr unfed safle ar ddeg, un lle o flaen enillydd Tour de France, Chris Froome.
Wrth ddiolch am negeseuon o gefnogaeth, dywedodd Thomas ei fod yn “gyted i orffen fel yna, gyda’r cyfan i chwarae amdano”.
Mae’n bosib y caiff Thomas ail gyfle am fedal pe bai Prydain yn cael lle yn y treialon amser, ond dydy hynny ddim wedi cael ei gadarnhau eto.