Shaun Edwards yn rhan bwysig o dîm hyfforddi Warren Gatland
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwrthod yr hawl i hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards gydweithio â chlwb Toulon yn Ffrainc.

Roedd disgwyl i Edwards dderbyn swydd achlysurol er mwyn magu rhagor o brofiad, ac roedd y prif hyfforddwr Warren Gatland yn croesawu hynny.

Roedd hyn yn gyfnewid am roi cyfle i Paul Stridgeon, hyfforddwr cryfder a chyflyru Toulon, ymuno â Chymru cyn Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd.

Ond fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru fod “sgôp y cyfle wedi newid” bellach, a’i fod yn tynnu ei enw’n ôl.

Mae gan Edwards gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru tan ddiwedd Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

Yn ôl y wasg yn Ffrainc, yr awgrym yw fod Edwards yn barod i dderbyn cytundeb mwy ffurfiol gyda Toulon na’r gwaith achlysurol oedd yn cael ei grybwyll ar y dechrau.