Ni fydd gemau rygbi’r Pro12 yn cael eu cynnal ar ddydd Sul y tymor nesaf.
Daeth cadarnhad wrth i’r rhestr gemau ar gyfer y tymor newydd gael eu cyhoeddi ddydd Mercher.
Yr unig eithriad fydd Dydd Calan.
Mae’r newyddion yn debygol o gael effaith ar amserlen S4C, oedd yn darlledu gemau’r gynghrair ar y penwythnos y tymor diwethaf.
Ar ddiwrnod cynta’r tymor, fe fydd y Gweilch yn croesawu’r Zebre i Stadiwm Liberty (nos Wener, Medi 2) a bydd y gêm honno’n fyw ar y BBC. Bydd y Dreigiau’n teithio i Ulster ar yr un noson.
Y diwrnod canlynol, bydd y Scarlets yn croesawu Munster i Barc y Scarlets, tra bydd gêm y Gleision yn erbyn Caeredin yng Nghaerdydd yn fyw ar S4C.
Gemau darbi
Bydd y gemau cyntaf rhwng rhanbarthau Cymru’n cael eu cynnal ar Hydref 28 a 29, wrth i’r Gleision herio’r Scarlets a’r Dreigiau’n teithio i herio’r Gweilch.
Ar Ddydd San Steffan, bydd y Dreigiau’n teithio i’r Gleision, tra bydd y Scarlets yn teithio i’r Gweilch y diwrnod canlynol.
Ar Ddydd Calan, bydd y Scarlets yn croesawu’r Gleision i Barc y Scarlets, tra bydd y Gweilch yn teithio i Gasnewydd i herio’r Dreigiau.
Bydd Dydd y Farn yn cael ei gynnal ar Ebrill 15 yn Stadiwm Principality, lle bydd y Gleision yn herio’r Gweilch, a’r Dreigiau’n wynebu’r Scarlets.
Bydd y gynghrair yn dod i ben ar Fai 6, a’r gemau ail-gyfle’n cael eu cynnal rhwng Mai 19 a 21, a’r rownd derfynol yr wythnos ganlynol.