Mae tair o ranbarthau rygbi Cymru wedi darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng Nghwpan Her Ewrop y tymor nesaf, tra bod y Scarlets hefyd wedi cael gwybod pwy fyddan nhw’n eu herio yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn y Swistir brynhawn dydd Mercher.

Fe fydd y Gleision yn herio Bryste, Caerfaddon a Pau yng Ngrŵp 4.

Yng Ngrŵp 2 gyda’r Gweilch mae Grenoble, Lyon a Newcastle.

Fe fydd y Dreigiau’n herio Brive, Caerwrangon ac Enisei-STM o Rwsia yng Ngrŵp 3.

Yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, fe fydd y Scarlets yn herio Sale a dau bencampwr diwethaf Ewrop, y Saraceniaid a Toulon yng ngrŵp 3.

Cwpan Her Ewrop

Grŵp 1: La Rochelle, Caerloyw, Treviso, Bayonne

Grŵp 2: Y Gweilch, Grenoble, Newcastle, Lyon

Grŵp 3: Brive, Caerwrangon, Y Dreigiau, Enisei-STM

Grŵp 4: Y Gleision, Caerfaddon, Pau, Bryste

Grŵp 5: Harlequins, Caeredin, Stade Francais, Timisoara

Cwpan Her Ewrop

Grŵp 3: Y Scarlets, Sale, Y Saraceniaid, Toulon