Wrth i lwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016 hawlio sylw’r genedl, mae’r Seintiau Newydd yn benderfynol o’u hefelychhu wrth iddyn nhw fynd gam yn nes at ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Cafodd y Seintiau Newydd fuddugoliaeth o 2-1 dros SP Tre Penne o San Marino yng nghymal cynta’r rownd gyntaf nos Fawrth.

Maen nhw wedi cyrraedd Ewrop chwe thymor allan o saith dros y blynyddoedd diwethaf.

Pe baen nhw’n dal eu gafael ar eu mantais yn yr ail gymal, fe fyddan nhw’n herio APOEL o Gyprus – tîm a gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf yn 2012 – yn y rownd nesaf – fe allai mynd y tu hwnt i’r ail rownd olygu herio un o’r timau mawr yn y gystadleuaeth.

Aeth y Cymry ar y blaen drwy Scott Quigley ar ôl 13 munud, ond dair munud yn unig gymerodd hi i SP Tre Penne unioni’r sgôr drwy Stefano Fraternali.

Ond Jamie Mullan wnaeth sicrhau bod y Cymry’n cael y fuddugoliaeth, a hynny gyda gôl bum munud cyn yr egwyl, wedi’i gynorthwyo gan Quigley.

Bu bron i’r Cymry ymestyn eu mantais drwy ergyd gan Aeron Edwards, ond fe fydd rhaid i’r Cymry fodloni ar fantais o un gôl wrth iddyn nhw deithio dramor ar gyfer yr ail gymal.

Yn y cyfamser, bydd tri o dimau Cymru – Llandudno, Y Bala a Chei Connah yn cystadlu yng Nghynghrair Europa nos Iau.