Fe fydd y dyfarnwr rygbi o Fynyddcerrig, Nigel Owens yn torri record ddydd Sadwrn wrth iddo ddyfarnu’r ornest ryngwladol rhwng Ffiji a Tonga yn Suva.

Hon fydd gêm ryngwladol rhif 71 i Owens, y nifer fwyaf gan unrhyw ddyfarnwr rhyngwladol yn hanes y gêm.

Mae’n torri record gyfredol Jonathan Kaplan o Dde Affrica, sydd bellach wedi ymddeol.

Mae Owens yn aelod o griw dethol o 55 o ddyfarnwyr o Gymru sydd wedi bod â’r chwiban ar gyfer gemau rhyngwladol.

Daeth Owens yn ddyfarnwr rhyngwladol yn 2003 pan oedd yng ngofal y gêm rhwng Portiwgal a Georgia yn Lisbon.

Ers hynny, mae e wedi dyfarnu 16 o gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a 12 o gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi (y Tair Gwlad gynt).

Ar lefel y clybiau, mae e wedi dyfarnu pum ffeinal Cwpan Ewrop a dwy ffeinal Cwpan Her Ewrop.

Daeth uchafbwynt ei yrfa yn yr hydref, pan ddyfarnodd rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd rhwng Seland Newydd ac Awstralia yn Twickenham.

Ar drothwy’r gêm fawr, dywedodd Nigel Owens: “Bob tro rwy’n mynd ar y cae fel dyfarnwr, mae’n fraint ac yn fwy felly pan fo’n gêm brawf.

“Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un yn mynd i ddyfarnu er mwyn torri record fel hon ond am wn i, mae’n dangos ’mod i wedi llwyddo i aros ar frig lefel ucha’r gêm ers cryn amser nawr felly mae tipyn o foddhad a balchder yn dod gyda hynny.

“Roedd cael dyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd yn brofiad hyfryd ac yn un y bydda i’n ei drysori am byth, ond mae pob gêm yn gofiadwy yn ei ffordd ei hun ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her nesaf hon yn Ffiji, rhywle lle dwi erioed wedi dyfarnu o’r blaen.

“Rwy wedi bod yn ddigon ffodus i gael cynifer o bobol yn fy nghefnogi ar y ffordd – ffrindiau, teulu a dyfarnwyr eraill o’r presennol a’r gorffennol ynghyd ag Undeb Rygbi Cymru a Rygbi’r Byd.

“Mae wedi bod yn daith werthfawr a llawn mwynhad mor belled ac rwy’n gobeithio cadw fynd am gryn amser i ddod.”