Mae capten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at gyfres o dair gêm yn erbyn Seland Newydd.
Os yw’r blaenasgellwr yn gwella o anaf i’w ysgwydd, fe fydd yn arwain Cymru yn y gêm gyntaf yn Auckland ddydd Sadwrn nesaf.
Y tro diwethaf i Warburton chwarae yn Ellis Park yn 2011, collodd Cymry o 9-8 yn erbyn Ffrainc yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd.
Dydy Cymru erioed wedi curo Seland Newydd ar eu tomen eu hunain, ac maen nhw wedi colli 26 gêm o’r bron yn erbyn y Crysau Duon.
Daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf 63 o flynyddoedd yn ôl.
Dywedodd Sam Warburton: “Fydda i byth yn mynd i mewn i gêm gan gredu na fyddwn ni’n ei hennill hi. Alla i ddim aros.
“Mae tair gêm yn gyfle gwych i ni. Rhaid i chi feddwl yn bositif iawn i fynd yno, a dyna hanner y frwydr yn y byd chwaraeon proffesiynol.”
Dywedodd y byddai’r teimlad o ennill gêm yn ysgogi Cymru yn ystod y daith.
“Y teimlad o gael buddugoliaeth sy’n eich ysgogi chi gan y byddai gymaint â hynny yn fwy o gamp. Felly mae’n ysgogiad go iawn i ni fynd allan yno a cheisio buddugoliaeth yn erbyn y tîm gorau yn y byd.”
Bydd Seland Newydd heb nifer o sêr, gan gynnwys Richie McCaw sydd wedi ymddeol, a Dan Carter, Ma’a Nonu a Conrad Smith sydd wedi rhoi’r gorau i rygbi rhyngwladol er mwyn symud i Ffrainc.
Ychwanegodd Warburton: “Efallai y byddan nhw’n colli profiad, ond fyddan nhw byth yn colli talent. Rwy wedi bod yn gwylio’r bois yn y Super Rugby, ac mae eu timau wedi bod yn gwneud yn eithriadol, gan chwarae rygbi gwych.”
Mae Cymru’n dechrau’r daith ar ôl colli o 27-13 yn erbyn Lloegr yn Twickenham yr wythnos diwethaf ac ar ôl colli’r blaenasgellwr Dan Lydiate, sydd wedi anafu ei ysgwydd.