Ni fydd chwaraewyr y Saraceniaid na Chaerwysg yn rhan o garfan rygbi Lloegr i herio Cymru ar Fai 29.
Bydd y ddau dîm yn herio’i gilydd yn rownd derfynol Uwch Gynghrair Lloegr ar Fai 28, ac felly fe fydd Lloegr heb chwech o’r chwaraewyr oedd yn rhan o’r garfan a drechodd Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Y chwaraewyr fydd ar goll yw Billy Vunipola, Maro Itoje, George Kruis, Owen Farrell, Mako Vunipola a Jack Nowell.
Ni fydd prop Cymru a Chaerwysg, Tomas Francis, Jonathan Davies na Luke Charteris ar gael i Gymru.
Mae lle i gredu na fydd y canolwr Manu Tuilagi ar gael ychwaith oherwydd anaf i linyn y gâr, ond mae yntau wedi’i gynnwys serch hynny.
Bydd Cymru’n teithio i Seland Newydd dros yr haf i chwarae tair gêm, tra bydd Lloegr yn herio Awstralia mewn tair gêm hefyd.
Mae pryderon ar hyn o bryd ynghylch ffitrwydd capten Cymru Sam Warburton, Justin Tipuric ac Alun Wyn Jones.
Carfan Lloegr yn erbyn Cymru: M Brown, L Burrell, D Care, E Daly, O Devoto, G Ford, J Joseph, M Tuilagi, A Watson, M Yarde, B Youngs; D Attwood, D Cole, J Clifford, E Genge, D Hartley, T Harrison, J Haskell, P Hill, M Kvesic, J Launchbury, C Lawes, M Mullan, C Robshaw, K Sinckler, T Taylor.