Montpellier 22–12 Dreigiau Casnewydd Gwent
Daeth antur Ewropeaidd y Dreigiau i ben yn Stadiwm Altrad ym Montpellier nos Sadwrn wrth iddynt golli yn erbyn y Ffrancwyr yn rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop.
Er i’r Cymry orffen yn gryf gyda dau gais, rhy ychydig rhy hwyr oedd hi gan fod y tîm cartref bedair sgôr ar y blaen erbyn hynny.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y Dreigiau yn addawol a maethodd Dorian Jones gyfle cynnar i’w rhoi ar y blaen gyda chic at y pyst.
Dechreuodd Montpellier reoli wedi hynny ac aethant chwe phwynt ar y blaen diolch i ddwy gic gosb o droed y maswr, Demetri Catrakilis.
Bu bron i Pierre Spies hyrddio drosodd am gais cyntaf y gêm wedi hynny ond cafodd yr wythwr ei ddal i fyny a bu rhaid i’r tîm cartref fodloni ar dri phwynt arall gan Catrakilis i ymestyn y fantais i naw pwynt.
Gyda sgrym y Dreigiau o dan bwysau cynyddol, roedd y naw pwynt yn ddeuddeg erbyn yr egwyl wedi i Benoit Paillaugue ychwanegu pedwaredd cic gosb.
Ail Hanner
Cic gosb arall gan Catrakilis oedd pwyntiau cyntaf wedi troi a bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r hanner am y cais cyntaf. Bissmarck Du Plessis yn croesi wedi sgarmes symudol, 22-0 y sgôr ar yr awr.
Gorffennodd y Dreigiau yn gryf serch hynny gan groesi am ddau gais cysur yn y chwarter olaf. Sgoriodd Hallam Amos y cyntaf yn dilyn gwaith da Carl Meyer a Taulupe Faletau, ac ychwanegodd Meyer ei hun yr ail yn y munudau olaf.
Rhy ychydig rhy hwyr a oedd hynny wrth gwrs a Montpellier fydd yn mynd ymlaen i herio’r Harlequins yn y rownd derfynol.
.
Montpellier
Cais: Bismarck Du Plessis 59’
Trosiad: Demetri Catrakilis 60’
Ciciau Cosb: Demetri Catrakilis 20’, 28’, 32’, 54’, Benoit Paillaugue 35’
.
Dreigiau
Ceisiau: Hallam Amos 61’ Carl Meyer 78’
Trosiad: Angus O’Brien 79’