Cei Connah 0–1 Y Bala
Sicrhaodd y Bala eu lle yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Ewropa am y trydydd tro mewn pedwar tymor gyda buddugoliaeth dros Gei Connah yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Sadwrn.
Roedd angen pwynt arnynt i sicrhau eu bod yn gorffen yn ail yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru uwch ben Llandudno, ond cawsant dri diolch i gic o’r smotyn Lee Hunt yn gynnar yn yr ail hanner.
Hanner Cyntaf
Daeth cyfle cyntaf yr hanner cyntaf wedi chwarter awr o chwarae ond ergydiodd Hunt heibio’r postyn yn dilyn pêl hir obeithiol o’r cefn.
Ashley Ruane a ddaeth agosaf i’r tîm cartref yn y pen arall ond ymatebodd Ashley Morris yn chwim yn y gôl i’r Bala i atal ei beniad postyn agosaf.
Cafodd Hunt gyfle arall ychydig funudau cyn yr egwyl gyda pheniad yn y cwrt cosbi ond adlamodd y bêl yn garedig i ddwylo’r gôl-geidwad cartref, Jon Rushton.
Ail Hanner
Aeth y Bala ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi i Hunt gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Ben Nash. Hunt ei hun a gymerodd y gic gan anfon Rushton y ffordd anghywir wrth sgorio ei ddau ganfed gôl yn Uwch Gynghrair Cymru.
Cafodd Mike Hayes gyfle gwych i ddyblu’r fantais hanner ffordd trwy’r hanner ond peniodd groesiad cywir Ian Sheridan heibio’r postyn.
Cafodd Cei Connah eu cyfnod gorau yn y chwarter awr olaf wrth iddynt ddod yn agos at unioni’r sgôr ar sawl achlysur.
Anelodd Wes Baynes hanner foli gelfydd fodfeddi heibio’r postyn o bum llath ar hugain. Methodd Nathan Woolfe a Ruane gyfle dwbl wedi hynny, cynnig Woolfe yn cael ei glirio oddi ar y llinell cyn i Ruane daro’r postyn.
Gorfododd Ruane arbediad da gan Morris o ongl dynn hefyd ond doedd dim ffordd trwodd i’r Nomadiaid wrth i’r Bala ddal eu gafael.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu fod tîm Maes Tegid yn gorffen y tymor yn ail yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru ac yn sicrhau eu lle yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Ewropa unwaith eto.
Bu rhaid i Cei Connah ar y llaw arall aros i geisio ymuno â hwy trwy’r gemau ail gyfle wedi iddynt orffen yn bedwerydd.
.
Cei Connah
Tîm: J. Rushton, Disney, Harrison, Ruane, N. Rushton (Woolfe 46’), McIntyre, Smith, Baynes, Churchman (Miller 56’), Nash, Bibby (Crowther 68’)
Cerdyn Melyn: Smith 71’
.
Y Bala
Tîm: Morris, Valentine, Stephens, S. Jones, Irving, Connolly, Burke (M. Jones 87’), Hayes (Thompson 79’), Sheridan, Smith, Hunt (Platt 90’)
Gôl: Hunt [c.o.s.] 49’
.
Torf: 169