Wrecsam 2–3 Braintree                                                                   

Cafwyd cadarnhad na fydd Wrecsam yn cyrraedd gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol wrth iddynt golli gartref yn erbyn Braintree ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd angen gwyrth ar y Dreigiau pryn bynnag ond mae hi’n fathamategol amhosib iddynt ddal Braintree yn y pumed safle bellach wedi i’r ymwelwyr ennill o dair i ddwy yn ogledd Cymru.

Tri munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Michael Cheek y tîm cartref ar y blaen.

Tarodd Wrecsam yn ôl ac aethant ar y blaen gyda chic rydd Lee Fowler wedi i beniad Simon Heslop o greosiad Kayden Jackson unioni’r sgôr i’r Dreigiau.

Cyfartal oedd hi ar yr egwyl serch hynny wedi i Cheek rwyo’i ail gydag ergyd isel dda o du allan i’r cwrt cosbi.

Aros yn gyfartal a wnaeth hi am ran helaeth o’r ail hanner ond cipiodd Braintree y tri phwynt ddeg munud o ddiwedd y naw deg wrth i Mitch Brundle ganfod cornel uchaf y gôl.

Mae’r canlyniad yn cryfhau safle Braintree yn bumed, ac yn golygu na all Wrecsam eu dal gydag un gêm ar ôl. Mae’r Dreigiau yn aros yn wythfed.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Heslop (Gray 60’), Smith, Fyfield, Fowler (York 60’), Jennings, Newton, Evans, Carrington, Jackson, Hudson (Briscoe 46’)

Goliau: Heslop 11’, Fowler 38’

Cerdyn Melyn: Evans 41’

.

Braintree

Tîm: King, Long, Phillips, Brundle, Habergham, Fry, Miles (Paine 61’), Cheek (Cardwell 74’), Akinola, Woodyard (Sparkes 69’), Davis

Goliau: Cheek 3’, 43’, Brundle 81’

Cardiau Melyn: Davis 37’, Fry 50’

.

Torf: 4,507