Luton 1–1 Casnewydd                                                                      

Mae dyfodol Casnewydd yn yr Ail Adran yn ddiogel am dymor arall diolch i gêm gyfartal yn erbyn Luton ar Ffordd Kenilworth brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Alltudion fwy neu lai yn ddiogel pryn bynnag, ond roedd un pwynt yn ddigon i gadarnhau hynny.

Luton a oedd y tîm gorau am ran helaeth o’r gêm a bu Joe Piggott yn wastraffus tu hwnt yn methu llu o gyfleoedd da.

Aeth y tîm cartref ar y blaen yn haeddiannol ddeg munud o’r diwedd pan beniodd Jack Marriott groesiad Olly Lee i gefn y rhwyd, ond wnaeth Casnewydd ddim rhoi’r ffidl yn y to.

Munud o’r naw deg a oedd ar ôl pan beniodd Souleymane Coulibaly groesiad Alex Rodman i’r gôl i achub pwynt i’w dîm.

Byddai Casnewydd wedi bod yn ddiogel pryn bynnag gan i Gaerefrog golli yn Accrington brynhawn Sadwrn ond roedd Warren Feeney yn falch o weld ei dîm yn aros i fyny gyda chanlyniad da oddi cartref. Mae’r pwynt yn eu cadw yn yr ail safle ar hugain, ddeg pwynt yn glir o safleoedd y gwymp gyda dwy gêm ar ôl.

.

Luton

Tîm: Justham, O’Donnell, Rea, Sheehan, Potts, Green (Banton 59’), Lawless (McGeehan 29’), Ruddock, Lee, McQuoid (Marriott 68’), Pigott

Gôl: Marriott 81’

Cerdyn Melyn: McQuoid 40’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Jones, Hughes, Davies, Rodman, Byrne, Elito, Barrow (O’Sullivan 86’), John-Lewis (Morgan 64’), Boden (Coulibaly 83’)

Gôl: Coulibaly 88’

Cerdyn Melyn: Davies 39’

.

Torf: 7,606