Mae bachwr y Dreigiau Elliott Dee wedi dweud bod y rhanbarth yn “benderfynol” o fynd un cam ymhellach a chyrraedd ffeinal  Cwpan Her Ewrop eleni.

Fe fydd Gwŷr Gwent yn teithio i Ffrainc i herio Montpellier yn y rownd gynderfynol yfory, gyda’r enillwyr yn wynebu’r Harlecwiniaid neu Grenoble yn y ffeinal.

Mae prif hyfforddwr y Dreigiau Kingsley Jones wedi penderfynu enwi’r un tîm a drechodd Caerloyw yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

Llynedd fe enillodd y Dreigiau yn erbyn y Gleision yn rownd yr wyth olaf, cyn colli i Gaeredin yn y rownd gynderfynol.

‘Gwella’n safon’

Mae Montpellier yn ail yng nghynghrair y Top 14 yn Ffrainc ar hyn o bryd, fodd bynnag, a does dim amheuaeth fod y Dreigiau’n wynebu her a hanner yn erbyn y tîm cartref.

“Dw i methu aros. Mae’n gêm enfawr i ni. Fe wnaethon ni gyrraedd y rownd gynderfynol llynedd ac rydyn ni eisiau mynd un ymhellach eto,” meddai Elliott Dee.

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi bod yn chwarae’n gyffrous yn Ewrop ac roedd y cyffro’n drydanol ar ôl gêm Caerloyw. Dyna pam ‘dych chi’n chwarae rygbi, allwch chi ddim curo diwrnodiau fel yna.

“Mae’n wych bod yn rhan o rownd gynderfynol y Cwpan Her ac fe fydd llawer o bobol yn gwylio. T gorau yw’r safon o rygbi chi’n chwarae, y gorau fyddwch chi fel chwaraewr.

Tîm y Dreigiau: Carl Meyer, Adam Hughes, Tyler Morgan, Adam Warren, Hallam Amos, Dorian Jones, Sarel Pretorius; Phil Price, Elliot Dee, Brok Harris, Rynard Landman, Nick Crosswell, Lewis Evans (capt), Nic Cudd, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Rhys Buckley, Boris Stankovich, Lloyd Fairbrother, Matthew Screech, Ed Jackson, Charlie Davies, Angus O’Brien, Jack Dixon.