Does dim byd gwell gan Dîm yr Wythnos Golwg360 na pharti – ond anaml y cewch chi wahoddiad i un sydd yn dathlu 150 mlwyddiant ers geni un o’n hoff gampau ni!
Ddydd Mercher fe fydd Llanbed yn nodi canrif a hanner ers i’r gêm gystadleuol gyntaf o rygbi gael ei chwarae yng Nghymru, rhwng colegau Dewi Sant a Llanymddyfri.
Fel rhan o’r digwyddiad fe fydd dwy gêm gyfeillgar yn cael ei chwarae, y cyntaf rhwng timau rygbi merched Y Drindod Dewi Sant a Thref Llanbed, a’r ail rhwng Y Drindod a’r Welsh Academicals.
Ac fe aeth Tîm yr Wythnos draw i gyfarfod merched rygbi Llanbed yn ddiweddar wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gêm fawr:
Fel rhan o’r dathliadau fe fydd llyfr gan yr hanesydd lleol Selwyn Walters hefyd yn cael ei lansio, yn adrodd stori’r gêm gyntaf honno.
Bydd plac hefyd yn cael ei ddadorchuddio i’r Parchedig Athro Rowland Williams, y gŵr ddaeth â’r gêm i Goleg Dewi Sant yn yr 1850au ac a drefnodd yr ornest honno â Llanymddyfri yn 1866.
“Dw i’n falch iawn cael bod yn rhan o achlysur o’r fath,” meddai Gareth Davies, hyfforddwr tîm rygbi merched Llanbed, wrth drafod dathliadau’r wythnos hon.
“Fe fydd cael hyfforddi tîm sydd am fod yn rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant ein camp genedlaethol yn fraint enfawr.
“Mae’r dref gyfan yn falch o allu dweud mai dyma ble’r oedd man geni ein gêm ac rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at nodi’r pen-blwydd â thipyn o ddathlu!”