Fydd Gareth Bale ddim yn ymuno â charfan Cymru'r wythnos hon wrth iddo wella'i ffitrwydd, gyda'i wraig hefyd ar fin rhoi genedigaeth (llun: CBDC)
Cafwyd rhagor o anafiadau i garfan Cymru dros y penwythnos yn y gemau clwb olaf i gael eu chwarae cyn y cyfnod rhyngwladol.

Roedd Hal Robson-Kanu a Neil Taylor ymysg y rheiny gafodd anafiadau dros y penwythnos, a dyw hi ddim yn glir eto a fydd y ddau yn ffit i wynebu Gogledd Iwerddon a’r Wcráin dros benwythnos y Pasg.

Mae Cymru eisoes yn gorfod gwneud y tro heb Gareth Bale, Aaron Ramsey, James Collins, Andy King, Paul Dummett a Dave Edwards ar gyfer y ddwy gêm.

Yr unig un o’r rheiny i chwarae dros y penwythnos i’w glwb oedd Bale, a lwyddodd i sgorio un a chreu un ym muddugoliaeth Real Madrid o 4-0 yn erbyn Sevilla.

Coes gwsg oedd y rheswm fethodd Taylor gêm Abertawe wrth i Ashley Williams eu harwain i fuddugoliaeth bwysig dros Aston Villa yn yr Uwch Gynghrair.

Ond mae disgwyl y bydd y cefnwr chwith yn holliach erbyn i’r Gwyddelod ymweld â Chaerdydd nos Iau.

Dechreuodd Joe Allen dros Lerpwl ac roedd Danny Ward ar y fainc ddydd Sul wrth i’r Cochion golli o 3-2 yn Southampton, gyda’r Cymro’n canfod cefn y rhwyd cyn gweld y llumanwr yn chwifio am gamsefyll.

Roedd Wayne Hennessey a Joe Ledley yn nhîm Crystal Palace eto dros y penwythnos, tra bod James Chester ar y fainc i West Brom, a Ben Davies a Shaun Macdonald yn absennol i Spurs a Bournemouth.

Y Bencampwriaeth

Fe adawodd Robson-Kanu y cae ar ôl dim ond 22 munud yng ngêm Reading a Chaerdydd ar ôl anaf, gyda’r ornest yn gorffen yn 1-1 wrth i Chris Gunter a Tom Lawrence chwarae gemau llawn.

Ar frig y gynghrair fe beniodd Sam Vokes gôl arall i Burnley wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 hefyd yn erbyn Wolves.

Fe greodd Adam Matthews un o goliau Bristol City wrth iddyn nhw drechu Bolton gartref o 6-0.

Croesiad David Cotterill oedd yn gyfrifol am gôl Birmingham wrth i’w gornest nhw â Fulham orffen yn 1-1, gyda Jazz Richards yn gwylio o’r fainc.

Daeth Emyr Huws oddi ar y fainc gyda 23 munud i fynd a hithau’n 1-1 rhwng Leeds a Huddersfield hefyd, ond erbyn y chwiban olaf roedd e wedi helpu’i dîm o a Joel Lynch i ennill o 4-1.

Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd David Vaughan, Morgan Fox a Jonny Williams, ond chafodd Adam Henley ac Andrew Crofts mo’u gweld.

Siom oedd hi yn Uwch Gynghrair yr Alban wrth i Aberdeen golli o 2-1 yn erbyn Motherwell i lithro ymhellach tu ôl i Celtic ar y brig, gydag Ash Taylor a Simon Church yn chwarae gemau llawn.

Ond fe gadwodd Owain Fôn Williams lechen lân wrth i Inverness drechu Ross County o 3-0.

Yng Nghynghrair Un fe rwydodd Tom Bradshaw wrth i Walsall drechu Colchester ym munudau olaf y gêm o 2-1.

Fe chwaraeodd Lloyd Isgrove 89 munud wrth i Barnsley drechu Fleetwood a Wes Burns, ac fe ddaeth George Williams oddi ar y fainc i Gillingham yn eu gêm gyfartal nhw â Southend.

Seren yr wythnos – Gareth Bale. Bellach wedi sgorio mwy o goliau yn La Liga nag unrhyw chwaraewr arall o Brydain.

Siom yr wythnos – Hal Robson-Kanu. Amseru gwael i’w anaf gyda dwy gêm gan Gymru’r wythnos hon.