Illtud Dafydd
Illtud Dafydd sy’n cloriannu beth sydd yn y fantol i rai o dimau Cymru ar benwythnos olaf y Chwe Gwlad…
Gêm yr Eidal bnawn Sadwrn fydd gem ola’ Cymru cyn gemau mis Mehefin, pan fyddan nhw’n herio Lloegr cyn wynebu tri phrawf yn erbyn Seland Newydd.
Does dim amheuaeth y bydd y pedair gêm hynny yn fwy o her i dîm Warren Gatland na’r ornest brynhawn Sadwrn. Gêm olaf Jacques Brunel fel hyfforddwr yr Azzurri fydd hi hefyd cyn iddo ddechrau ei swydd fel hyfforddwr blaenwyr Union Bordeaux-Begles yn y Top 14.
Mae sawl newid wedi’i wneud i’r tîm gan Gatland wedi’r golled i Loegr, y mwyafrif yn dilyn anafiadau.
Bydd cyfle i chwaraewyr megis Hallam Amos a Ross Moriarty (oddi ar y fainc) hawlio’u lle ar yr awyren i Seland Newydd ac er bod y gêm yn erbyn yr Eidal yn dead rubber i’r ddau dîm bydd sawl chwaraewr yn ei gweld hi fel llwyfan i ddangos eu doniau.
Dyfodol Parisse
Mae dyfodol capten yr Eidal Sergio Parisse wedi dod dan y chwyddwydr yn ystod yr wythnos, gyda phapur rygbi Ffrainc Midi Olympique yn honni y bydd wythwr Stade Francais yn parhau i gynrychioli’i wlad tan 2019 yn lle ymddeol wedi’r Chwe Gwlad eleni.
Fe fydd yn rhaid aros i weld pwy fydd olynydd Brunel fel prif hyfforddwr yr Eidalwyr cyn disgwyl cadarnhad gan Parisse.
Ond mae’n sicr y bydd yn well gan Stade Francais ei weld yn ymddeol mor fuan â phosib, yn enwedig wrth edrych ar dabl le Championnat gyda’r tîm o Baris yn y deuddegfed safle.
Cymru dan-20
Mae ‘di bod yn bleser gwylio tîm dan-20 Cymru eleni. Pedair gêm a phedair buddugoliaeth, ac fe fydd curo’r Eidalwyr ar Barc Eirias dros y Sul yn sicrhau Camp Lawn i dîm Jason Strange.
Mae’r ffaith bod y tîm yn llwyddiannus yn destun balchder wrth gwrs, ond mae’r ffordd y mae Tom Phillips wedi’u harwain a’r ffordd maen nhw wedi chwarae yn golygu cymaint yn fwy.
Does dim yr un pwysau ar y bois ifanc ac sydd i’w weld gyda’r tîm cyntaf. Maen nhw’n chwarae rygbi agored, yn ceisio lledaenu’r bêl ac yn trio pethau ar y cae.
Mae unigolion fel yr olwyr Keelan Giles a Rhun Williams wedi serennu gyda’r bêl yn ei dwylo, ac mae gwaith caled Harrison Keddie ac Adam Beard yn braf i’w weld.
Er i’r tîm newid eu maswr yn ystod y gystadleuaeth, mae’r strwythur a’r safon uchel yn ogystal â’r canlyniadau wedi bod yn gyson.
Mae hi’n edrych yn addawol ar gyfer Cwpan dan-20 y Byd ym Manceinion dros yr haf.