Fe enwodd Chris Coleman ei garfan o 26 bore 'ma ar gyfer y ddwy gêm gyfeillgar (llun: CBDC)
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi addo y bydd yn rhoi capiau cyntaf i ambell chwaraewr wythnos nesaf wrth iddo gael cip ar rai o’r rheiny sydd ar gyrion y tîm.

Cafodd y garfan ei henwi heddiw ar gyfer y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin ar ddiwedd y mis, gyda Gareth Bale ac Aaron Ramsey ymysg y rheiny sydd yn absennol ag anafiadau.

Ond yn ôl Coleman fe fydd hynny’n gyfle i weld beth sydd gan ambell un o’r chwaraewyr ar y cyrion i’w gynnig – er bod y rheolwr yn cyfaddef ei fod yn gwybod mwy neu lai pwy mae e eisiau eu dewis i fynd i Ewro 2016 yn yr haf.

Mae’r golwr Danny Ward yn un fydd yn disgwyl ennill ei gap cyntaf yn un o’r gemau, tra bod Tom Bradshaw a Lloyd Isgrove hefyd yn gobeithio cael eu dewis am y tro cyntaf.

‘Y darlun ehangach’

Dywedodd Coleman ei fod o’n ddigon hapus gadael Bale ar ôl ym Madrid er mwyn i seren Cymru barhau i wella o anaf i groth ei goes.

Mae gwraig Bale hefyd ar fin rhoi genedigaeth i’w hail blentyn, rheswm arall i’r ymosodwr beidio ag ymuno â’r garfan ar gyfer y ddwy gêm.

Ond fe fynnodd rheolwr Cymru bod ymroddiad y chwaraewr mor uchel ag erioed, ac mai’r flaenoriaeth oedd sicrhau ei fod yn hollol ffit erbyn mis Mehefin.

“Wrth edrych ar y darlun ehangach, mae’n bwysig bod gennym ni ein carfan gryfaf erbyn yr haf,” meddai Coleman.

“Roedd y ddwy ochr [Cymru a Real Madrid] yn teimlo mai’r peth gorau fyddai petai’n aros lle oedd o, gweithio’n fanno, cael triniaeth, a beth bynnag arall mae e angen.”

‘Gwybod fy ngharfan’

Fe gadarnhaodd Coleman ei fod yn bwriadu rhoi cap cyntaf i Ward, gan enwi Bradshaw a’r chwaraewr canol cae Andrew Crofts fel eraill allai ddisgwyl cyfle yn ystod y ddwy gêm hefyd.

Ond fe awgrymodd y byddai’n anodd iawn i rai o’r chwaraewyr ymylol ddisodli’r enwau cyfarwydd cyn Ewro 2016 oni bai bod anafiadau.

“Dw i’n gwybod yn fy mhen y 23 dw i’n meddwl fydd gryfaf, ond yn anffodus fe gewch chi anafiadau, chwaraewyr ddim yn chwarae ac yn y blaen,” meddai Coleman.

“Ond i fod yn onest, os ‘dych chi’n chwarae’n dda am bedair neu chwe wythnos, ac mae rhywun arall wedi bod yn perfformio blwyddyn ar ôl blwyddyn, dw i’n gwybod pa un dw i am ddewis.

“Dyw hynny ddim yn golygu fodd bynnag nad oes cystadleuaeth am un neu ddau o lefydd o hyd.”