Fe fydd Tomas Francis yn methu gêm nesaf Cymru yn ogystal â gweddill y tymor rheolaidd gyda Chaerwysg (llun: David Davies/PA)
Mae Tomas Francis yn wynebu gwaharddiad o wyth wythnos ar ôl byseddu llygad prop Lloegr Dan Cole yn yr ornest Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Mae’n golygu y bydd yn rhaid i hyfforddwr Cymru Warren Gatland enwi chwaraewr arall ar y fainc i herio’r Eidal y penwythnos yma, ar ôl cynnwys y chwaraewr 23 oed yn wreiddiol.
Fe benderfynodd panel disgyblu annibynnol y gystadleuaeth fod prop Cymru wedi ‘cysylltu’n fyrbwyll â’r llygad neu ardal y llygad’ yn ystod y gêm.
Rhoddwyd cic gosb yn erbyn Cymru yn ystod y gêm wedi i’r digwyddiad gael ei hailwylio gan y dyfarnwr fideo, ond ni roddwyd cosb bellach i Francis ar y pryd.
Bydd gwaharddiad y prop hefyd yn ergyd i’w glwb Gaerwysg, sy’n cystadlu am le yng ngemau ail gyfle Uwch Gynghrair Aviva yn ogystal â pharatoi i herio Wasps yn rownd wyth olaf Cwpan y Pencampwyr.