Fydd Alun Wyn Jones ddim ar gael i wynebu'r Eidal yng ngêm olaf Cymru yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (llun: David Davies/PA)
Mae disgwyl i Alun Wyn Jones fethu’r chwe wythnos nesaf ag anaf, yn ôl hyfforddwr Cymru Warren Gatland.
Chafodd y clo ddim ei enwi yn nhîm Cymru i wynebu’r Eidal y penwythnos yma oherwydd ei fod wedi brifo’i sawdl.
Ond yn ôl Gatland, mae’r chwaraewr wedi bod yn cario anaf ers wythnosau ac ond wedi bod ‘80% yn ffit’ yn ystod y gemau diwethaf.
Methu gemau’r Gweilch
Mae gobeithion Cymru o gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bellach ar ben ar ôl y golled o 25-21 yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.
Ond fe fydd Alun Wyn Jones nawr yn debygol o fethu sawl gêm i’r Gweilch dros yr wythnosau nesaf hefyd, gan ddechrau gyda’r ornest yn erbyn y Scarlets ar 25 Mawrth.
Does gan ei ranbarth ddim llawer o obaith o orffen yn y pedwar uchaf yn y Pro12 bellach, a hwythau’n wythfed yn y tabl, ond fe allen nhw dal gipio lle yn y chwech uchaf.
Ond fe allai Alun Wyn Jones ddychwelyd cyn diwedd y tymor i’R Gweilch, ac fe ddylai hefyd fod yn ffit ar gyfer taith Cymru i Seland Newydd yn yr haf.