Gallai prop Cymru gael gwaharddiad sylweddol
Gallai prop Cymru, Tomas Francis ddarganfod ddydd Llun a fydd e’n cael ei gosbi am roi ei fysedd yn llygaid prop Lloegr, Dan Cole yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Mae’n ymddangos bod prop Caerwysg wedi cyffwrdd â llygaid Cole wrth i Gymru golli o 25-21 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae gan y comisiynydd John Cole 48 awr wedi diwedd yr ornest i gofnodi’r digwyddiad.
Fe allai Francis gael ei wahardd yn y pen draw am 12 wythnos neu fwy.
Dywedodd hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones y dylid ymchwilio i’r digwyddiad os oedd Francis wedi cyffwrdd â llygaid Cole, ac fe ychwanegodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland nad oedd y digwyddiad yn “edrych yn wych”.
Ond ar y pryd, penderfynodd y dyfarnwr Craig Joubert nad oedd y drosedd yn haeddu cerdyn melyn, ond fe allai’r comisiynydd benderfynu ei bod yn deilwng o gerdyn coch.
Byddai gwaharddiad yn ergyd drom i Gaerwysg, sy’n cystadlu am le yng ngemau ail gyfle Uwch Gynghrair Aviva a gornest yn erbyn y Picwns yn rownd wyth olaf Cwpan y Pencampwyr.