Canlyniad siomedig yn erbyn Lloegr wrth iddyn nhw golli o 25-21
Mae’r bachwr Ken Owens wedi galw ar dîm rygbi Cymru i ddangos “balchder yn y crys” wrth iddyn nhw herio’r Eidal ar benwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn nesaf.

Fe fydd y Cymry’n ceisio gorffen y gystadleuaeth yn bositif yn dilyn y golled o 25-21 yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Perfformiad digon siomedig a gafwyd gan Gymru, gydag Owens ymhlith criw bach iawn o chwaraewyr oedd wedi creu argraff yn ystod yr ornest.

Dywedodd Owens: “Fe ddaethon ni i Twickenham yn hyderus y gallen ni gael buddugoliaeth ac o bosib, gael chwarae am y bencampwriaeth y penwythnos nesaf.

“Dw i ddim yn sicr beth ddigwyddodd yn yr awr gyntaf, ond fe enillon nhw frwydr y llinell fantais mewn modd ymosodol ac yn amddiffynnol, a dyna lle caiff gemau eu hennill a’u colli y dyddiau yma.

“Rhaid i ni droi i fyny’r wythnos nesaf a herio’r Eidal a dangos balchder yn y crys unwaith eto. Byddwn ni’n gweithio’n galed fel carfan fel rydyn ni’n gwneud bob amser, a gorffen y bencampwriaeth hon ar nodyn uchel.”