Pryderon am salwch a phroblemau ieithyddol y rheolwr o'r Eidal
Mae adroddiadau’n awgrymu bod dyfodol rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Francesco Guidolin yn y fantol.
Dywed papur newydd y Sun fod y cadeirydd Huw Jenkins yn ystyried opsiynau eraill, gydag enw’r cyn-reolwr Brendan Rodgers yn cael ei grybwyll unwaith eto.
Cafodd Guidolin ei benodi ar Ionawr 19 tan ddiwedd y tymor yn dilyn diswyddo’r rheolwr blaenorol Garry Monk wedi dechrau digon siomedig yn yr Uwch Gynghrair.
Ond fe fu’r Eidalwr yn yr ysbyty’n ddiweddar yn dioddef o haint ar ei ysgyfaint, gan golli tair gornest yn olynol.
Fe allai’r Elyrch bellach droi at Rodgers, Roberto Di Matteo neu Gus Poyet, a hynny cyn diwedd y tymor, meddai’r Sun.
Ond mae awgrym hefyd y byddai gan Alan Curtis, fu wrth y llyw am gyfnod, ddiddordeb yn y swydd yn barhaol.