Samson Lee wedi cael ei sarhau gan Joe Marler

Mae trefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ymchwilio i honiadau bod prop Lloegr, Samson Lee wedi cael ei sarhau gan wrthwynebydd oherwydd ei fod yn aelod o’r gymuned o sipsiwn Romani.

Fe allai prop Lloegr, Joe Marler ganfod ei hun mewn dŵr poeth gyda’r comisiynydd yn dilyn yr ornest fawr yn erbyn Cymru yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Daeth i’r amlwg fod Marler wedi sarhau Samson Lee, a’i fod e wedi taro prop arall Cymru, Rob Evans gyda’i benelin.

Daeth yr ergyd i wyneb Evans wrth i Dan Cole groesi am gais i Loegr yn yr hanner cyntaf, ond nid oedd y dyfarnwr Craig Joubert wedi gweld y digwyddiad.

Ond yr ail ddigwyddiad sydd fwyaf tebygol o gael sylw dros y dyddiau nesaf, ar ôl i Marler gael ei glywed ar feicroffôn y dyfarnwr yn galw Lee yn “gypsy boy”.

Mae’r digwyddiad wedi denu cryn dipyn o sylw ar wefannau cymdeithasol.

Nid dyma’r tro cyntaf i sylwadau sarhaus gael eu clywed yng nghartref tîm rygbi Lloegr.

Yn 2014, cafodd ymchwiliad ei gynnal yn dilyn adroddiadau bod cefnogwr yn y dorf wedi anelu sylwadau homoffobig at y dyfarnwr o Fynyddcerrig, Nigel Owens.

Cafodd yr honiadau eu gwneud gan gefnogwr mewn llythyr yn y wasg Brydeinig, ac fe ddywedodd yr RFU, y corff sy’n rheoli rygbi yn Lloegr, eu bod nhw’n trin honiadau o’r fath yn ddifrifol.

Ond dydy Golwg360 ddim wedi gallu cael ymateb gan yr RFU nac Undeb Rygbi Cymru hyd yma.

Mae modd gweld y digwyddiad ar Twitter.

Tomas Francis

Yn y cyfamser, mae hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones wedi galw am ymchwilio i ymddygiad prop Cymru, Tomas Francis yn dilyn honiadau ei fod e wedi rhoi ei fysedd yn llygaid Dan Cole.

Cafodd y Cymro ei gosbi gan y dyfarnwr Joubert ar y pryd yn dilyn ymgynghoriad â’r dyfarnwr fideo.

Ond mae Eddie Jones yn anfodlon mai cerydd yn unig a gafodd Francis.