Siom i'r merched yn Lloegr
Collodd tîm rygbi merched Cymru o 20-13 ddydd Sadwrn wrth i Loegr gadw eu gobeithion o gipio’r Gamp Lawn yn fyw.

Roedd y fuddugoliaeth yn y Stoop yn golygu bod Lloegr wedi ennill y Goron Driphlyg.

Aeth y Saeson ar y blaen drwy gais Ceri Large, ac fe drosodd Amber Reed cyn i Large ychwanegu ail gais.

Tarodd Cymru’n ôl gyda chic gosb gan Robyn Wilkins cyn i Alisha Butchers groesi am gais.

Ond roedd dwy gic gosb arall gan Reed yn ddigon i sicrhau’r pwyntiau i Loegr.

Bydd Cymru’n croesawu’r Eidal i gae Talbot Athletic ddydd Sul nesaf i gwblhau’r gystadleuaeth.