Y Cymro fydd yn gwisgo'r crys melyn ar y diwrnod olaf
Y Cymro Geraint Thomas fydd yn gwisgo’r crys melyn yn ystod cymal olaf ras seiclo Paris-Nice ddydd Sul.
Gorffennodd Thomas yn ail yn y cymal olaf ond un o Nice i La Madone d’Utelle, wrth i Ilnur Zakarin gipio’r fuddugoliaeth i Team Katusha.
Dechreuodd Thomas y diwrnod olaf ond un yn y chweched safle, ond roedd ail yn y cymal yn ddigon i’w godi i’r brig.
Mae gan Thomas flaenoriaeth o 15 eiliad dros Alberto Contador, ac 20 eiliad dros Zakarin.
Bydd y cymal olaf yn ras o 141km, ac fe fydd rhaid i’r cystadleuwyr ddringo chwe gwaith – gan gynnwys y Col d’Eze – cyn gorffen yng nghanol tref Nice.
Dywedodd Geraint Thomas wrth wefan TeamSky.com: “Mae gyda ni gymal anferth nawr yfory. Mae tipyn o ddringo ac rwy’n nabod y ffyrdd yn dda iawn.
“Mae’n mynd i fod yn anodd iawn a gall tipyn newid o hyd. Allwn ni ddim cymryd unrhyw beth yn ganiataol ond mae gyda fi dîm cryf iawn o’m cwmpas – y cryfaf yn y ras, fwy na thebyg – ac rwy mewn safle gwych.”
Bydd modd gwylio diweddglo’r ras ar S4C am 12.45 brynhawn Sul.