Dyw Manu Tuilagi heb chwarae dros Loegr ers 21 mis (llun:Jonathan Brady/PA)
Dyw Lloegr heb wneud unrhyw newid i’w tîm wrth iddyn nhw baratoi i herio Cymru yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Mae eu hyfforddwr Eddie Jones wedi penderfynu aros â’r pymtheg drechodd Iwerddon yng ngêm ddiwethaf y Saeson, gan olygu mai lle ar y fainc yn unig sydd i Manu Tuilagi.

Roedd Cymru wedi enwi’u tîm hwythau ddydd Mawrth, gyda Warren Gatland hefyd yn penderfynu peidio â gwneud newidiadau wedi iddyn nhw drechu Ffrainc yn eu gornest ddiwethaf.

‘Byddwch yn wyliadwrus’

Fe fydd enillwyr y gêm yn Twickenham ddydd Sadwrn mwy na thebyg yn cipio’r bencampwriaeth eleni, gyda mewnwr Cymru Gareth Davies yn dweud y bydd ‘ugain munud cyntaf’ yr ornest yn allweddol.

Er nad yw Tuilagi yn dechrau’r gêm mae’r canolwr yn debygol o gael ei ryddhau o’r fainc gan Loegr yn yr ail hanner, rhywbeth mae Jonathan Davies eisoes wedi rhybuddio’i gyd-chwaraewyr i fod yn wyliadwrus ohono.

Mae’r unig newid i dîm Lloegr yn dod ymysg yr eilyddion gyda’r clo Joe Launchbury, y prop Kieran Brookes a’r bachwr Luke Cowan-Dickie i gyd yn cael eu cynnwys.

Tîm Cymru: Liam Williams, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capt), Taulupe Faletau

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Tomas Francis, Luke Charteris, Justin Tipuric, Rhys Webb, Rhys Priestland, Gareth Anscombe

Tîm Lloegr: Mike Brown, Anthony Watson, Jonathan Joseph, Owen Farrell, Jack Nowell, George Ford, Ben Youngs; Joe Marler, Dylan Hartley (capt), Dan Cole, Maro Itoje, George Kruis, Chris Robshaw, James Haskell, Billy Vunipola

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Joe Launchbury, Jack Clifford, Danny Care, Manu Tuilagi, Elliot Daly