Gareth Davies
Mae Gareth Davies wedi pwysleisio y bydd yn rhaid i’r tîm fod yn tanio o’r cychwyn cyntaf os yw Cymru am drechu Lloegr yn y gêm ddydd Sadwrn allai benderfynu enillwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe fydd mewnwr y Scarlets yn dechrau unwaith eto yn nhîm Warren Gatland, er gwaethaf y ffaith bod Rhys Webb bellach wedi gwella o anaf i’w ffêr a nôl yn y garfan.
Dechrau da i’r gêm yn Twickenham fydd yn allweddol, yn ôl Davies, gyda Chymru yn aml yn canfod eu hunain ar ei hôl hi yn gynnar mewn gemau ar ôl cychwyn yn araf.
Ac mae sgoriwr y cais drechodd Lloegr yng Nghwpan y Byd yn gwybod fod ganddo gystadleuaeth gref y tu ôl iddo o chwaraewyr sydd hefyd eisiau hawlio’r crys rhif naw.
Digon o ddewis
Bellach mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn gallu dewis o Davies, Webb, Lloyd Williams neu Aled Davies yn safle’r maswr.
Ond mae Gareth Davies yn teimlo fel ei fod wedi gwella fel chwaraewr ers cael ei daflu mewn i’r tîm cyn Cwpan y Byd llynedd yn sgil anaf Webb.
Ac mae’n hyderus nad oes gan Gymru unrhyw beth i’w ofni unwaith eto yn Twickenham wrth iddyn nhw chwilio am fuddugoliaeth fyddai’n rhoi’r bencampwriaeth o fewn eu cyrraedd.
‘Edrych ymlaen’
“Rydyn ni wedi siarad am yr ugain munud cyntaf. Mae’n rhaid i ni ddod allan yn tanio o’r dechrau, fe fydd hynny’n help mawr i ni,” meddai’r mewnwr.
“Dw i’n siŵr os wnawn ni hynny a chwarae gêm tempo uchel, y gallwn ni ddod oddi yno gyda buddugoliaeth dda.
“Rydyn ni’n gyfforddus yn chwarae unrhyw le. Fe gawson ni cwpl o berfformiadau da yn Twickenham yng Nghwpan y Byd, felly dy’n ni ddim ofn mynd yno. Ry’n ni’n edrych ymlaen.”