Rhys Webb
Mae’r mewnwr Rhys Webb wedi cael ei alw nôl i garfan Cymru ar ôl gwella o anaf i’w ffêr.

Ar hyn o bryd mae tîm Warren Gatland yn paratoi i herio Lloegr ddydd Sadwrn mewn gêm sydd yn debygol o benderfynu enillydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Dyw Webb heb chwarae dros Gymru ers cael anaf yn ystod un o’r gemau paratoadol cyn Cwpan y Byd llynedd.

Ond mae’r chwaraewr 27 oed wedi dychwelyd i dîm y Gweilch ers tair wythnos, ac ar ôl profi ei ffitrwydd mae nawr wedi cael ei alw nôl i’r tîm cenedlaethol.

Brwydr y mewnwyr

Dyw hynny ddim yn golygu fodd bynnag ei fod yn debygol o ddechrau yn erbyn Lloegr, gan fod Gareth Davies wedi gwneud cryn argraff yn safle’r mewnwr yn absenoldeb Webb.

Mae’r maswyr Lloyd Williams ac Aled Davies yn y garfan hefyd ar hyn o bryd, gan olygu fod gan Gatland benderfyniadau i’w gwneud cyn i’r tîm deithio i Twickenham ddydd Sadwrn.

Fe all Lloegr gadw’u gobeithion o ennill y Gamp Lawn yn fyw gyda buddugoliaeth dros y Cymry.

Ond os yw’r crysau cochion yn ennill y penwythnos yma fe fyddan nhw’n gwybod mai  dim ond curo’r Eidal gartref yn y gêm olaf fydd rhaid gwneud er mwyn cipio’r bencampwriaeth.