Aaron Ramsey yn dathlu ei gôl yn erbyn Spurs - neu'n canu cân Alun Tan Lan, 'da ni ddim yn siŵr p'run (llun: Adam Davy/PA)
Mae Bale ar y bêl, mae Bale ar y bêêêl … na, ddaeth tiwn Alun Tan Lan ddim i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni.

Ond roedd yn ddisgrifiad gweddus o beth welwyd eto o’r diwedd yn Stadiwm y Bernabeu dros y penwythnos ar ôl hir aros, wrth i Gareth Bale ddychwelyd ar ôl chwe wythnos allan gydag anaf i groth ei goes.

Fe gamodd Bale i’r cae fel eilydd i Real Madrid wrth iddyn nhw chwalu Celta Vigo o 7-1 yn La Liga, gyda’r Cymro yn rhedeg o’r llinell hanner i ychwanegu seithfed gôl ei dîm.

Cafwyd gôl wych gan Aaron Ramsey dros y penwythnos hefyd wrth iddo fflicio ergyd i mewn gyda’i sawdl i roi Arsenal ar y blaen yn erbyn Spurs yn y ras ar frig yr Uwch Gynghrair.

Gorffen yn 2-2 wnaeth y gêm honno fodd bynnag, gyda Ben Davies yn dod ymlaen am y 12 munud olaf, canlyniad sydd yn golygu bod Caerlŷr bellach bum pwynt yn glir ar frig y tabl.

Fe gynyddodd y bwlch ar y brig ar ôl i’r Foxes drechu Watford oddi cartref o 1-0, gydag Andy King yn dod ymlaen fel eilydd ar yr egwyl i helpu’i dîm i fuddugoliaeth bwysig arall.

Cafwyd buddugoliaeth bwysig ar ben arall y tabl hefyd i Abertawe, gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn yr amddiffyn wrth iddyn nhw gadw llechen lân a churo Norwich o 1-0.

Rhwydodd Joe Ledley gôl gyntaf y gêm wrth i Crystal Palace golli 2-1 i Lerpwl, oedd â Joe Allen a Danny Ward ar y fainc.

Fe wnaeth golwr yr Eagles Alex McCarthy gamgymeriad costus i adael Lerpwl nôl mewn i’r gêm, yn absenoldeb Wayne Hennessey oherwydd anaf.

Cafodd James Chester gêm lawn fel cefnwr chwith i West Brom wrth iddyn nhw drechu Man United o 1-0.

Ond roedd James Collins yn absennol i West Ham ar ôl tynnu llinyn y gâr, anaf sydd yn debygol o olygu ei fod yn methu gemau cyfeillgar Cymru ar ddiwedd y mis.

Ac fe fu’n rhaid i Paul Dummett adael y cae ar ôl 31 munud gydag anaf wrth i Newcastle golli 3-1 i Bournemouth, gan olygu y gallai yntau fethu’r gemau yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin.

Y Bencampwriaeth

Nid Cymry’r Uwch Gynghrair a La Liga oedd yr unig rai i sgorio’r penwythnos yma chwaith, wrth i Hal Robson-Kanu rwydo dwy yng ngêm gyfartal Reading a Fulham yn y Bencampwriaeth.

Fe sgoriodd y cyntaf o’r smotyn ar ôl cael ei faglu yn y cwrt cosbi, cyn penio’r ail ychydig cyn yr egwyl.

Ond fe gafodd ei eilyddio ar yr hanner oherwydd anaf, gyda’i dîm yntau a Chris Gunter yn methu â chael y gorau o dîm Jazz Richards.

Sicrhaodd Caerdydd fuddugoliaeth bwysig arall yn y ddarbi leol yn erbyn Bristol City, gydag ergyd Tom Lawrence yn creu’r cyfle i Stuart O’Keefe ei gwneud hi’n 2-0.

Mae Burnley nôl ar frig y tabl ar ôl buddugoliaeth o 1-0 dros Blackburn, gyda Sam Vokes yn chwarae’r 90 munud ond Adam Henley yn gwylio o’r fainc.

Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Morgan Fox, David Vaughan a Jonny Williams i’w clybiau, tra bod y golwr Lewis Price ar y fainc i Sheffield Wednesday.

Mae Owain Fôn Williams ac Inverness dal yng Nghwpan yr Alban ar ôl gêm gyfartal 1-1 â Hibernian yn rownd yr wyth olaf.

Ac yng Nghynghrair Un, er i Tom Bradshaw sgorio ei 16eg gôl o’r tymor, fe lithrodd Walsall i’r pedwerydd safle ar ôl colli o 3-1 yn erbyn Barnsley.

Seren yr wythnos – Aaron Ramsey. Ar ôl cyfnod anodd diweddar, da oedd gweld ei ddawn yn disgleirio unwaith eto mewn gêm allweddol.

Siom yr wythnos – Wayne Hennessey. Croesi bysedd na fydd anaf golwr dewis cyntaf Cymru yn ei gadw allan am hir.