Glasgow 27–20 Gleision

Roedd Glasgow rhy dda i’r Gleision wrth i’r Cymry ymwld â Scotstoun yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Aeth yr Albanwyr ugain pwynt ar y blaen ar ôl llwyr reoli’r hanner cyntaf, ac er i’r Gleision frwydro nôl wedi’r egwyl, dim ond digon ar gyfer pwynt bonws oedd hynny.

Hanner Cyntaf

Dim ond un tîm oedd ynddi yn y deugain munud cyntaf wrth i’r Albanwyr lwyr reoli. Rhoddodd cic gosb Duncan Weir hwy ar y blaen cyn i Gordon Reid sgorio cais cyntaf y gêm, y prop yn croesi wedi i Ray Lee-Lo fethu tacl yng nghysgod y pyst, 10-0 y sgôr wedi trosiad Weir.

Croesodd Mark Bennett y llinell gais i’r Albanwyr yn fuan wedyn hefyd ond collodd y canolwr ei afael ar y bêl wrth geisio tirio.

Ychwanegodd Weir gic gosb i ymestyn y fantais i dri phywnt ar ddeg hanner ffordd trwy’r hanner wrth i’w dîm barhau i reoli.

Amddiffynnodd y Gleision yn ddewr am ugain munud wedi hynny ond fe ddaeth yr ail gais anochel i Glasgow gyda symudiad olaf yr hanner, y clo, Tim Swinson, yn tirio wedi cyfnod hir o bwyso. Llwyddodd Weir gyda’r trosiad gan roi ugain pwynt o fantais i’r tîm cartref wrth droi.

Ail Hanner

Chwaraewyd ychydig mwy o’r gêm yn hanner Glasgow yn yr ail hanner ond dim ond tri phwynt o droed Rhys Patchell oedd gan y Gleision i’w ddangos am hynny yn yr ugain munud cyntaf.

Bu rhaid i’r Cymry aros tan saith munud o’r diwedd am y cais cyntaf, Dan Fish yn dilyn ei gic ei hun cyn tirio yn y gornel chwith.

Aeth y Gleision i lawr i bedwar dyn ar ddeg yn syth o’r ail ddechrau wrth i Aled Summerhill gael ei anfon i’r gell gosb am daclo dyn yn yr awyr. Ciciodd Glasgow i’r gornel a sgoriodd Simone Favaro o’r sgarmes symudol ganlynol, gan roi’r Albanwyr yn ôl dair sgôr ar y blaen gyda dim ond ychydig funudau i fynd.

Wnaeth y Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny, gan lwyddo i sicrhau pwynt bonws anhebygol gyda dau gais hwyr. Sgoriodd Ellis Jenkins wedi sgarmes symudol funud o ddiwedd yr wyth deg cyn i Macauley Cook groesi bedwar munud wedi’r wyth deg.

Trosodd Patchell y cyntaf o’r ddau a gorffennodd y Gleision o fewn saith pwynt i Glasgow er i’r Albanwyr reoli rhan helaeth o’r gêm. Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn nawfed yn nhabl y Pro12.

.

Glasgow

Ceisiau: Gordon Reid 10’, Tim Swinson 40’, Simone Favaro 74’

Trosiadau: Duncan Weir 11’, 40’, 75’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 7’, 21’

Cerdyn Melyn: Scott Cummings 80’

.

Gleision

Ceisiau: Dan Fish 73’, Ellis Jenkins 79’, Macauley Cook 80’

Trosiad: Rhys Patchell 80’

Cic Gosb: Rhys Patchell 58’

Cerdyn Melyn: Aled Summerhill 74’