Munster 26–5 Dreigiau Casnewydd Gwent

Colli oedd hanes y Dreigiau wrth iddynt deithio i Barc Thomond i wynebu Munster yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Cais Hallam Amos oedd unig bwyntiau’r ymwelwyr o Gymry wrth i’r Gwyddelod ennill yn gyfforddus gyda phwynt bonws.

Deunaw munud oedd ar y cloc pan diriodd Dave Kilcoyne gais cyntaf y gêm yn dilyn bylchiad gwreiddiol Andrew Conway.

Croesodd Rory Scannell am ail gais y Gwyddelod wyth munud cyn yr egwyl ac roedd y tîm cartref ddeuddeg pwynt ar y blaen wrth droi diolch i drosiad Ian Keatley.

Roedd y gêm yn prysur fynd o afael y Dreigiau pan groesodd Kilcoyne am ei ail ef a thrydydd ei dîm yn gynnar yn yr ail hanner. Ac er i gais Hallam Amos roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr fe sicrhaodd Munster y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws gyda chais hwyr James Cronin, 26-5 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau yn ddegfed yn nhabl y Pro12 gyda phum gêm yn weddill.

.

Munster

Ceisiau: Dave Kilcoyne 18’, 43’, Rory Scannell 32’, James Cronin 77’

Trosiadau: Ian Keatley 33’, 44’, Johnny Holland 78’

.

Dreigiau

Cais: Hallam Amos 46’