Met Caerdydd 0–2 Cei Connah                                                     

Sgoriodd Cei Connah gôl ddadleuol iawn wrth iddynt drechu Met Caerdydd yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru nos Sadwrn.

Rhoddodd Nathan Woolfe yr ymwelwyr ar ben ffordd eiliadau cyn yr egwyl er bod amheuaeth o lawio gan Les Davies. Dyblodd Callum Morris y fantais yn yr ail hanner i sicrhau lle y tîm o’r Uwch Gynghrair yn y rownd gynderfynol.

Ar wahân i’r deg munud cyntaf, Met Caerdydd oedd tîm gorau’r hanner cyntaf, ond er iddynt reoli llawer o’r meddiant prin oedd y cyfleoedd clir.

Cawsant eu cosbi gan Gei Connah yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner. Methodd Met â chlirio cic rydd hir o’r cwrt chwech ac adlamodd y bêl yn garedig i Woolfe gyda gôl wag o’i flaen. Roedd hi’n ymddangos i’r bêl daro llaw Davies ar ei ffordd i Woolfe ond cafodd y gôl ei chaniatáu.

Stori debyg oedd hi yn yr ail hanner, Met yn mwynhau meddiant ond Cei Connah’n amddiffyn yn drefnus.

Daeth cyfle gorau’r myfyrwyr ddeg munud wedi’r egwyl ond peniodd yr amddiffynnwr canol, Emlyn Lewis, heibio’r postyn.

Roedd Cei Connah ddwy gôl ar y blaen funud yn unig yn ddiweddarach, Callum Morris yn sgorio i rwyd wag wedi i’w gynnig cyntaf adlamu yn ôl i’w lwybr oddi ar y trawst.

Prin oedd y cyffro wedi hynny gyda’r Nomadiaid yn dal eu gafael yn gyfforddus tan y diwedd. Gallai Ashley Ruane fod wedi ychwanegu trydedd yn y munudau olaf ond roedd dwy gôl yn ddigon i sicrhau gêm gynderfynol iddynt yn erbyn y deiliaid, Y Seintiau Newydd.

Port Talbot ac Airbus fydd yn wynebu ei gilydd yn y gêm arall yn y pedwar olaf.

.

Met Caerdydd

Tîm: Fuller, James, Lewis, Woolridge, McCarthy, Baker, Bowler (Spencer 62’), Evans, Corsby, Lam, Roscrow

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Baynes, Horan, Linwood (Rimmer 77’), Smith, Harrison, Morris, Crowther, Woolfe (Churchman 80’), Parry (Ruane 68’), Davies

Goliau: Woolfe 45’, Morris 56’

Cardiau Melyn: Linwood 29’, Horan 30’, Baynes 66’