Casnewydd 1–0 Wycombe
Symudodd Casnewydd un pwynt ar ddeg yn glir o safleoedd y gwymp yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth yn erbyn Wycombe ar Rodney Parade.
Sgoriodd Scott Boden unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf i roi hwb enfawr i’w dîm yn eu gobeithion o aros yn y gynghrair.
Pum munud ar hugain oedd ar y cloc pan rwydodd Boden wedi gwaith creu da John-Christophe Ayina.
Yr ymwelwyr oedd y tîm gorau yn yr ail hanner a bu bron iddynt unioni pan darodd cynnig Rowan Liburd yn erbyn y trawst.
Ond dal eu gafael ar y tri phwynt a wnaeth yr Alltudion ac maent bellach un pwynt ar ddeg yn glir o safleoedd y gwymp, yn y pedwerydd safle ar bymtheg yn nhabl yr Ail Adran.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Holmes, Jones, Donacien, Hughes, Rodman (Gosling 66’), Byrne, Klukowski, Ayina, Wilkinson, Boden (Davies 89’)
Gôl: Boden 25’
Cardiau Melyn: Klukowski 45’, Jones 69’, Boden 71’
.
Wycombe
Tîm: Allsop, Jombati (Bloomfield 74’), Pierre, McCarthy, Jacobson, Harriman, McGinn, O’Nien, Wood (Thompson 45’), Hayes (Ugwu 82’), Liburd
Cardiau Melyn: Jombati 72’, Pierre 77’, Jacobson 90’
.
Torf: 2,325