Leinster 19–16 Gweilch
Colli fu hanes y Gweilch mewn gêm glos yn y Guinness Pro12 yn erbyn Leinster ar yr RDS brynhawn Sadwrn.
Ciciodd Sam Davies yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic gosb gynnar ond y tîm cartref a gafodd y cais agoriadol wrth i’r blaenasgellwr, Dan Leavy, groesi yn dilyn gwaith da Ian Madigan a Fergus McFadden.
Llwyddodd Madigan gyda’r trosiad cyn ychwanegu tair cic gosb cyn yr egwyl hefyd, 16-3 y sgôr ar yr hanner.
Tarodd y Gweilch yn ôl yn yr ail hanner, gyda tri phwynt o droed Davies i ddechrau ac yna gyda chais Dan Baker ar yr awr.
Rhoddodd trosiad Davies yr ymwelwyr o fewn tri phwynt ond dyna oedd y bwlch ar y chwiban olaf hefyd wedi i’r ddau faswr, Madigan a Davies, gyfnewid cic gosb yr un yn y chwarter olaf.
Mae’r canlyniad yn cadw Leinster yn ail yn nhabl y Pro12 ac mae pwynt bonws y Gweilch yn eu codi hwythau dros Glasgow i’r seithfed safle.
.
Leinster
Cais: Dan Leavy 15’
Trosiad: Ian Madigan 16’
Ciciau Cosb: Ian Madigan 20’, 28’, 32’, 65’
.
Gweilch
Cais: Dan Baker 60’
Trosiad: Sam Davies 61’
Ciciau Cosb: Sam Davies 3’, 46’, 67’