Bristol City 0–2 Caerdydd                                                                

Cafodd Caerdydd fuddugoliaeth dda yn y Bencampwriaeth amser cinio ddydd Sadwrn wrth iddynt deithio i Ashton Gate i herio Bristol City.

Mae’r Adar Gleision o fewn trwch blewyn i’r safleoedd ail gyfle wedi i goliau Lex Immers a Stuart O’Keefe sicrhau tri phwynt iddynt ym Mryste.

Ugain munud a oedd wedi mynd pan rwydodd Immers o groesiad isel Joe Ralls. Yr ymwelwyr oedd y tîm gorau o dipyn trwy gydol yr hanner cyntaf ond roedd angen arbediad da gan David Marshall i atal Jonathan Kodija a chadw’i dîm ar y blaen.

Bu rhaid i’r Cymry amddiffyn dipyn mwy wedi’r egwyl wrth i’r tîm cartref gynyddu’r pwysau. Ond gwaneth Caerdydd y gwaith hwnnw’n drefnus ac effeithiol, ac roedd y tri phwynt yn ddiogel saith munud o ddiwedd y naw deg pan beniodd O’Keefe i gefn y rhwyd wedi i ergyd Tom Lawrence wyro i’w lwybr oddi ar y trawst.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r seithfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth, a gwahaniaeth goliau yn unig sydd yn eu gwahanu hwy a Sheffield Wednesday yn y safleoedd ail gyfle.

.

Bristol City

Tîm: O’Donnell, Little (Ayling 65’), Flint, Baker, Golbourne, Pack, Bryan, Freeman, Reid (Wilbraham 65’), Tomlin, Kodija (Agard 80’)

Cardiau Melyn: Tomlin 45’, Agard 86’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison 46’), Ecuele Manga, Connolly, Malone, Lawrence, O’Keefe, Ralls, Wittingham (Noone 70’), Pilkington, Immers (Dikgacoi 84’)

Goliau: Immers 21’, O’Keefe 83’

Cerdyn Melyn: Pilkington 24’

.

Torf: 15,758