Abertawe 1–0 Norwich                                                                    

Cafodd Abertawe fuddugoliaeth bwysig brynhawn Sadwrn wrth i Norwich ymweld â’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair.

Mae’r Elyrch yn symud naw pwynt yn glir o safleoedd y gwymp wedi i gôl ail hanner Gylfi Sigurdsson sicrhau’r tri phwynt.

Cyn chwaraewr Caerdydd, Cameron Jerome, a ddaeth agosaf at agor y sgorio mewn hanner cyntaf di fflach, ond llwyddodd Lukasz Fabianski i arbed ei gynnig yn gymharol gyfforddus.

Roedd Abertawe yn well wedi’r egwyl, ac roeddynt ar y blaen ar yr awr diolch i Sigurdsson, y gŵr o Wlad yr Iâ yn gorffen yn daclus wedi gwaith creu effeithiol Leroy Fer.

Gwnaeth John Ruddy arbediad da i atal Sigurdsson rhag ychwanegu ail ond roedd un gôl yn ddigon i’r Elyrch.

Mae’r canlyniad yn eu cadw yn yr unfed safle ar bymtheg ond yn eu symud naw pwynt yn glir o Norwich sydd yn aros yn ddeunawfed

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Britton (Fer 55’), Ayew (Gomis 82’), Sigurdsson, Routledge, Paloschi (Barrow 45’)

Gôl: Sigurdsson 61’

Cardiau Melyn: Taylor 34’, Angel 90’

.

Norwich

Tîm: Ruddy, Pinto, Martin, Klose, Brady (Bennett 27’), Redmond, O’Neil, Howson, Naismith (Bamford 64’), Hoolahan, Jerome (Mbokani Bezua 64’)

Cardiau Melyn: Jerome 13’, Brady 17’, Bennett 46’, Martin 56’, O’Neil 57’

.

Torf: 20,929