Warren Gatland (llun: Undeb Rygbi Cymru)
Ar ôl curo Ffrainc 19-10 neithiwr, mae Cymru’n edrych ymlaen yn eiddgar at yr her fawr yn erbyn Lloegr ymhen pythefnos, yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland.

Bydd Lloegr yn ôl ar frig tabl pencampwriaeth y chwe gwlad os byddan nhw’n curo Iwerddon heddiw.

Os felly, fe fydd gêm yn Twickenham ar 12 Mawrth yn  dyngedfennol.

Pe bai Cymru’n curo Lloegr, ac wedyn yr Eidal yr wythnos wedyn, fe fydden nhw’n sicrhau’r bencampwriaeth.

Mae Cymru wedi curo Lloegr deirgwaith oddi cartref yn ystod teyrnasiad Gatland, gan gynnwys y fuddugoliaeth 28-25 yng ngornest Cwpan y Byd ym mis Hydref.

‘Tîm o safon’

“Mae Lloegr yn dîm o safon ac mae am fod yn gêm brawf wirioneddol galed,” meddai Warren Gatland.

“Ond rydym wedi ennill yno ambell dro, felly mae gennym yr hyder a’r gred y gallwn ni wneud hynny.

“Dyna pam fod y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc mor bwysig. Mae’n ein cadw ni yn y bencampwriaeth.

“Pe baen ni wedi colli, fe fydden ni allan ohoni, ond mae gennym lawer i chwarae drosto bellach ymhen pythefnos.”