Cymru 19–10 Ffrainc
Mae gobeithion Cymru’n fyw o hyd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn buddugoliaeth dros Ffrainc mewn gêm hynod ddiflas yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd nos Wener.
George North a sgoriodd unig gais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail hanner ac roedd hynny ynghŷd â chicio Biggar at y pyst yn ddigon iddynt yn erbyn gwrthwynebwyr trychinebus yn y Ffrancwyr.
Methodd Dan Biggar ei gynnig cyntaf at y pyst cyn trosi pwyntiau cyntaf y noson hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Cyfnewidiodd Biggar a Jules Plisson gic gosb yr un wedi hynny wrth iddi aros yn agos, er bod Cymru’n rheoli.
Daeth unig fflach o gyffro’r deugain munud cyntaf ychydig funudau cyn yr egwyl pan fylchodd Gareth Davies ond doedd dim cais i fod, 6-3 y sgôr ar yr hanner.
Ymestynnodd Biggar y bwlch i chwe phwynt gyda thrydedd cic gosb yn gynnar yn yr ail hanner.
Daeth cais cyntaf y noson yn fuan wedyn ond roedd elfen o lwc yn perthyn i hwnnw hyd yn oed. Dilynodd North gic hir Jonathan Davies ac adlamodd yn garedig iddo oddi ar droed Plisson wrth y llinell gais.
Llwyddodd Biggar gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb arall i roi tair sgôr rhwng y timau gyda chwarter awr ar ôl.
Roedd hynny’n ddigon o amser i gapten y Ffrancwyr, Guilhem Guirado, sgorio cais cysur i’r ymwelwyr ond rhy ychydig rhy hwyr oedd yr ymgais o sgarmes symudol.
Mae’r canlyniad yn codi Cymru i frig tabl y Chwe Gwlad wedi tair gêm, ond gall Lloegr godi drostynt gyda buddugoliaeth dros Iwerddon ddydd Sadwrn.
.
Cymru
Cais: George North 47’
Trosiad: Dan Biggar 48’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 22’, 30’, 42’ 66’
.
Ffrainc
Cais: Guilhem Guirado 79’
Trosiad: Francois Trinh-Duc 80′
Ciciau Cosb: Jules Plisson 33’