Collodd y Gleision gartref o 13-14 yn erbyn Leinster i aros yn nawfed yn nhabl y Pro12 mewn tywydd gwyntog ym Mharc yr Arfau.

Dim ond 6-3 i Leinster oedd hi ar yr egwyl, wrth i’r ddau dîm geisio dygymod â’r elfennau, gydag Ian Madigan a Gareth Anscombe yn cicio pwyntiau’r ddau dîm.

Fe gynyddodd Leinster eu mantais ar ôl 58 munud wrth i Isa Nacewa groesi am gais, cyn i Josh Navidi dirio o’r Gleision gyda thair munud i fynd.

Ychwanegodd Rhys Patchell y trosiad, ond wrth i’r Gleision wthio am sgôr hwyr fyddai wedi ennill y gêm fe gafodd ymgais Patchell am gôl adlam ei tharo lawr.

Cafodd canolwr y Gleision â Chymru Cory Allen ei gludo oddi ar y maes gydag anaf i’w bigwrn.

Roedd tîm y Gleision yn cynnwys sawl chwaraewr gafodd eu rhyddhau o garfan Cymru’r wythnos hon gan gynnwys Anscombe, Lloyd Williams, Alex Cuthbert, Kristian Dacey, Josh Turnbull a Tom James.