Roedd gôl hwyr gan Scott Boden yn ddigon i gipio pwynt i Gasnewydd oddi cartref yng Nghaerwysg yng Nghynghrair Dau.

Ar ôl hanner cyntaf di-sgôr fe aeth y tîm cartref ar y blaen diolch i ergyd Jordan Tillson ar ôl 51 munud.

Ond Casnewydd oedd yn rheoli’r meddiant ar y cyfan yn ogystal â dangos mwy o fygythiad ymosodol, ac fe ddaethon nhw ag Andrew Hughes, Dean Morgan ac Yan Klukowski ymlaen fel eilyddion yn yr ail hanner i geisio newid y gêm.

Fe ddaeth yr eiliad dyngedfennol chwe munud o’r diwedd, gyda Boden yn penio o groesiad Medy Elito i unioni’r sgôr.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn 20fed yn y tabl, saith pwynt yn uwch na safleoedd y cwymp.