Mae Caerdydd wedi sgorio pedair gôl mewn gêm am y tro cyntaf ers 2012 wrth iddyn nhw drechu Brighton o 4-1 yn y gêm gynnar yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Roedd yr Adar Gleision 3-0 ar y blaen ar ôl hanner awr diolch i goliau gan Peter Whittingham, Anthony Pilkington a Lex Immers 0 flaen torf o 14,143 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ar ôl dod â dau eilydd ymlaen ar yr egwyl cafwyd gwell perfformiad gan Brighton, gyda Dale Stephens yn rhwydo i’r ymwelwyr.
Ond cafodd y tri phwynt eu sicrhau o’r smotyn gan Whittingham ar ôl i Pilkington gael ei faglu gan Connor Goldson.
Roedd y Cymro Tom Lawrence yn nhîm Caerdydd unwaith eto, gan chwarae 85 munud cyn cael ei eilyddio, tra bod Andrew Crofts wedi cael gêm lawn i Brighton.
Mae’r canlyniad yn codi’r Adar Gleision i gyrion y gemau ail gyfle, tra bod yr ymwelwyr yn aros yn drydydd yn y tabl.