Mae’r Gweilch wedi codi i’r chwech uchaf yn nhabl y Pro12 ar ôl buddugoliaeth o 27-13 gartref yn erbyn Caeredin.

Cyfartal o 13-13 oedd hi ar yr egwyl yn Stadiwm Liberty, wrth i brop Caeredin Alan Dell sgorio’r cais agoriadol ac yna Sam Underhill yn ymateb i’r tîm cartref.

Roedd y maswyr Greig Tonks a Sam Davies hefyd wedi trosi dwy gic gosb yr un yn yr hanner cyntaf, cyn i’r Gweilch ddechrau ymestyn eu mantais yn yr ail hanner diolch i droed Davies.

Sicrhaodd Sam Otten y fuddugoliaeth i’r Cymry gyda chais hwyr gan olygu eu bod nhw bellach y tu ôl i Gaeredin yn y tabl ar wahaniaeth pwyntiau yn unig.

Cafodd Dan Lydiate hefyd 73 munud ar y cae cyn cael ei eilyddio, er iddo dreulio deng munud o’r amser hwnnw yn y gell gosb, wrth iddo geisio profi’i ffitrwydd cyn gêm Cymru v Ffrainc yn y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf.