Collodd y Dreigiau o 19-17 yn Treviso nos Wener i aros yn 10fed yn nhabl y Pro12.
Roedd ceisiau gan Angelo Esposito, Filo Paulo a Ludovico Nitoglia yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Eidalwyr, sydd yn aros ar waelod y tabl fodd bynnag.
Cafodd Hallam Amos ei gynnwys yn nhîm y Dreigiau ar ôl cael ei ryddhau o garfan Cymru ar gyfer y gêm, ac fe sgoriodd gais cyntaf Gwŷr Gwent.
Llwyddodd Cory Hill i groesi’r linell i’r Dreigiau hefyd, gydag Angus O’Brien yn trosi’r ddwy gais ac un cic gosb.
Ond fe fethodd gydag ymgais hwyr am gôl adlam, gan olygu bod Treviso wedi trechu tîm o Gymru am yr ail waith mewn dwy gêm.