Mae’r Scarlets wedi cael dirwy ohiriedig ar ôl enwi chwaraewr anghymwys yn eu carfan ar gyfer gêm Gwpan Pencampwyr Ewrop ym mis Ionawr.

Dywedodd trefnwyr y bencampwriaeth, European Professional Club Rugby (EPCR), fod pwyllgor disgyblu annibynnol wedi penderfynu rhoi’r ddirwy o 10,000 ewro, tua £ 7,700, wedi i’r Scarlets gynnwys  Jacob Cowley ar gyfer y gêm yn erbyn Racing 92 fis diwethaf.

Roedd EPCR wedi dod â chwyn gamymddwyn yn erbyn y Scarlets.

Er nad oedd Jacob Cowley wedi chwarae unrhyw ran yn y gêm, penderfynodd y pwyllgor fod y rhanbarth wedi torri rheolau’r twrnamaint drwy enwi chwaraewr nad oedd wedi cael ei gofrestru gya’r EPCR.

Ni fydd y Scarlets yn apelio yn erbyn y penderfyniad a bydd y ddirwy yn daladwy os fydd y rhanbarth yn torri unrhyw reol arall rhwng nawr a 31 Mai, 2018.