Mae’r chwaraewr rheng ôl James Botham wedi’i ychwanegu at garfan rygbi Cymru ar gyfer gemau’r haf.

Bydd tîm Warren Gatland yn herio De Affrica yn Twickenham ar Fehefin 22 cyn teithio i Awstralia ar gyfer dwy gêm brawf a gêm yn erbyn Queensland Reds.

Mae 38 o chwaraewyr yn y garfan baratoadol erbyn hyn.

Mae disgwyl i’r garfan derfynol o 34 chwaraewr gael ei chyhoeddi ar ôl y gêm yn erbyn De Affrica.