Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn dweud eu bod nhw wedi “ailasesu” eu cynlluniau ar gyfer eisteddle’r Kop newydd ar y Cae Ras.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r eisteddle gael ei ehangu i wneud lle i 5,500 o gefnogwyr i gyd, ac roedd disgwyl i’r gwaith ddechrau y llynedd cyn bod “cymhlethdodau”, yn ôl y perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Bellach, maen nhw’n dweud y bydd yr eisteddle dros dro’n cynyddu i 3,000 o 2,289 tan bod y gwaith ar yr eisteddle newydd sbon yn dechrau.

Cafodd y Kop gwreiddiol ei ddymchwel yn 2022, a chafodd y clwb ganiatâd cynllunio ar gyfer yr eisteddle newydd.

Dywed y clwb fod yr asesiad wedi’i gynnal er lles cefnogwyr a’r gymuned, a’u bod nhw’n anelu i sicrhau defnydd o’r stadiwm drwy gydol y flwyddyn ac nid dim ond yn ystod y tymor pêl-droed.