Tom Habberfield (Llun: y Gweilch)
Mae’r mewnwr rygbi, Tom Habberfield, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd â’i dîm cartref, y Gweilch.
Golyga hyn y bydd y chwaraewr 23 oed, a ddechreuodd ei yrfa â’r tîm yn 2011, yn aros yn Stadiwm Liberty hyd at dymor 2018/19.
Mae bellach wedi chwarae 67 o gemau i’w ranbarth, gan ymddangos am y 50fed tro ar ddiwrnod cyntaf y tymor hwn.
“Dw i wedi bod yn rhan o’r system am gwpl o flynyddoedd nawr, dw i wedi fy magu yma, felly dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol,” meddai Tom Habberfield, wrth siarad am ei gytundeb newydd.
“Mae wedi bod yn dda i gael her, mae’n sicrhau fy ‘mod i’n gwthio fy hun. Dw i’n edrych ymlaen at gystadlu â nhw am dair blynedd arall.
“Maen nhw’n gwahanol fathau o chwaraewyr, ond maen nhw’n cynnig cymaint ar y cae ac oddi arno, ac maen nhw’n bobol gallaf ddysgu ohonyn nhw.”
“Ymrwymiad diamheuol” i’r tîm
Dywedodd Andrew Millward, Rheolwr Rygbi Cyffredinol gyda’r Gweilch, eu bod yn “falch iawn o sicrhau dyfodol Tom gyda’r rhanbarth.”
“Gyda’i ymrwymiad diamheuol i achos y Gweilch, ar y cae ac oddi arno, mae’n ased gwych i’r busnes, rhywun sy’n cael ei barchu’n fawr gan chwaraewyr a hyfforddwyr.
“Yn enwedig, mae’n deall cymhlethdodau’r gêm a’i rôl fel rhif naw, a’r negeseuon allweddol sy’n galluogi’r tîm i weithredu’n ymosodol ac yn amddiffynnol.”