Maswr Cymru Dan Biggar (llun: Gareth Fuller /PA)
Dyw Dan Biggar ddim yn haeddu cael ei alw’n faswr gorau’r byd, ac mae lle i ddadlau na fyddai hyd yn oed yn haeddu lle yn nhîm y Llewod ar hyn o bryd.
Dyna farn y sylwebydd Alun Wyn Bevan, a fu’n siarad â gohebydd golwg360 Alun Chivers mewn sesiwn Golwg ar Grwydr yn Abertawe’n ddiweddar.
Roedd Biggar yn un o sêr Cwpan Rygbi’r Byd, ac fe enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru 2015 ar ôl helpu’r tîm i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Mae e hefyd wedi dechrau dwy gêm Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yn hyn, er iddo orfod dod oddi ar y cae yn gynnar yn yr ornest agoriadol yn erbyn yr Iwerddon ar ôl anafu’i bigwrn.
Ddim yn gwneud digon?
Wrth drafod carfan Cymru a’u gobeithion yn y bencampwriaeth, fodd bynnag, dywedodd Alun Wyn Bevan nad oedd e’n “un o gefnogwyr pennaf Dan Biggar”.
Fe gyfaddefodd fod ganddo ddawn cicio a gallu gwych o dan y bêl uchel, ond roedd yn feirniadol o agweddau eraill o’i chwarae.
Ac yn ôl sylwebydd Golwg, mae gan faswyr eraill o ynysoedd Prydain rinweddau allai eu gwneud nhw’n fwy addas ar gyfer tîm y Llewod fydd yn teithio i Seland Newydd y flwyddyn nesaf.
“Mae rhai yn dweud mai fe [Biggar] yw’r maswr gorau yn y byd. Yr ateb i hynny yw ‘na’, mae arna’i ofn,” meddai Alun Wyn Bevan.
“Petai hi’n dod nawr i ddewis tîm y Llewod, efallai mai [Jonny] Sexton a George Ford fyddai’r ddau faswr.”
Bydd modd i chi wylio’r sgwrs lawn rhwng Alun Wyn Bevan ac Alun Chivers ar ap Golwg o ddydd Iau 18 Chwefror ymlaen.